
Croeso i Brosiect Siop Ni
Ein nod yw prynu ac adnewyddu Neuadd Eglwys y pentref ac agor siop sy'n eiddo i'r gymuned ac yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr...a chymaint mwy!
Siop Ni - Llawer Mwy na Siop
Mae Siop Ni yn gyfle cyffrous, nid yn unig i ailsefydlu siop yn y pentref, ond hefyd i gynnig adnoddau/gwasanaethau ychwanegol i'r gymuned, a allai gynnwys:
- Caffi Dewi (ein caffi cymunedol)
- Golchdy bach
- Man poeth WiFi/cyfrifiadur/copïwr lliw/argraffydd/gofod dysgu tawel gyda chyfleoedd i ddysgu Cymraeg, rhifedd, llythrennedd
- Amgueddfa dreftadaeth Llanddewi Brefi gyda chyfraniadau gan y gymuned
- Hwb iechyd (gyda gwybodaeth iechyd/llesiant + mynediad digidol ar gyfer cysylltu â'r meddygfeydd)
- Peiriant Arian
Gwella gwydnwch cymunedol
Drwy gynnal gwasanaethau sydd eu hangen arnom yn lleol, rydym yn gobeithio y bydd Siop Ni yn gwneud ein pentref yn fwy gwydn ac yn ychwanegu at fywiogrwydd ein cymuned drwy gynnig lle cynnes, croesawgar a chyfeillgar i brynu nwyddau bob dydd a chael sgwrs a phaned, rydym yn gobeithio y bydd Siop Ni yn helpu i herio unigedd yn ein cymuned wledig.
Cryfhau a Diogelu Defnydd y Gymraeg
Mae'r Gymraeg yn ganolog i Siop Ni, ac rydym yn gofyn i'n cymuned am adborth ar sut y gall Siop Ni gryfhau a diogelu defnydd y Gymraeg.
Beth ydym ni'n ei wneud?
Mae ein Pwyllgor Llywio (sy'n cynnwys 14 o drigolion y pentref) wedi bod yn gweithio'n galed dros y 15 mis diwethaf
Ymgysylltu â'r Gymuned
Ym mis Mai 2025, cynhaliwyd ymgynghoriad pentref a chawsom 84 o ymatebion yn cwmpasu 176 o bobl.
Ar 26 Mawrth 2026, lansiwyd ein hail ymgynghoriad (ymatebion i ddod i law erbyn 9 Ebrill 2026), ac rydym yn cynnal sesiynnau gwybodaeth cyhoeddus 29/31 Mawrth a 5/7 Ebrill yng Nghaffi Dewi.
Cyllid
Rydym wedi derbyn cyllid grant gan Cynnal y Cardi a Perthyn ar gyfer ein hastudiaethau dichonoldeb/costau cychwyn. Rydym yn bwriadu cynnal cynnig cyfranddaliadau cymunedol a gwneud cais am grantiau i ariannu prynu ac adnewyddu Neuadd yr Eglwys a chostau sefydlu cychwynnol Siop Ni.

Strwythur Cyfreithiol
O 21 Awst 2025 ymlaen, roedd Siop Ni CBS Cyfyngedig wedi'i chofrestru gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol fel Cymdeithas Budd Cymunedol (menter gymdeithasol ddi-elw y mae'n ofynnol iddi weithredu er budd y gymuned).
Camau Nesaf
Unwaith y bydd yr 2il Ymgynghoriad wedi'i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau ac yn paratoi i wneud cynnig i brynu Neuadd yr Eglwys a lansio'r cynnig cyfranddaliadau cymunedol.
97.6%
yr ymatebion yn dweud y byddent yn defnyddio siop y pentref
(ymgynghoriad cymunedol 1af
75%
yr ymatebion i'r arolwg yn dweud y byddent yn defnyddio'r siop i leihau teithiau car
(ymgynghoriad cymunedol 1af)